Math | medium regional center, tref goleg, bwrdeistref trefol yr Almaen, urban district of Thuringia |
---|---|
Poblogaeth | 65,611 |
Pennaeth llywodraeth | Peter Kleine |
Cylchfa amser | UTC+01:00, UTC+2 |
Gefeilldref/i | |
Nawddsant | Q103982756 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Thüringen |
Gwlad | Yr Almaen |
Arwynebedd | 84.48 ±0.01 km² |
Uwch y môr | 208 ±1 metr |
Gerllaw | Ilm |
Yn ffinio gyda | Weimarer Land |
Cyfesurynnau | 50.9811°N 11.3294°E |
Cod post | 99423, 99425, 99427 |
Pennaeth y Llywodraeth | Peter Kleine |
Dinas yn nhalaith ffederal Thüringen yn yr Almaen yw Weimar. Saif i'r gogledd o'r Thüringer Wald, i'r dwyrain o Erfurt, ac i'r de-orllewin o Halle a Leipzig. Mae'r boblogaeth tua 64,000.
Ceir y cofnod cyntaf am y ddinas yn 899. Yn ddiweddarach, daeth yn brifddinas Dugiaeth Saxe-Weimar. Bu Martin Luther a Johann Sebastian Bach yn byw yma, yna tua diwedd y 18g symudodd Goethe yma. Daeth y ddinas yn ganolfan ddiwylliannol yr Almaen; ymhlith y trigolion enwog mae Schiller, Herder, Hummel, Liszt, Friedrich Nietzsche ac Arthur Schopenhauer.
Rhoddodd y ddinas ei henw i Weriniaeth Weimar, y cyfnod rhwng 1919 a 1933 yn hanes yr Almaen. Daw'r enw oherwydd mai yma y drafftiwyd y cyfansoddiad ar gyfer y weriniaeth newydd, gan fod Berlin yn rhy beryglus ar y pryd. Weimar a Dessau oedd canolbwynt y mudiad Bauhaus.
Yn yr Ail Ryfel Byd, adeiladwyd gwersyll crynhoi yn Buchenwald, 8 km o Weimar.