![]() | |
Enghraifft o: | grŵp ethnig ![]() |
---|---|
Math | pobloedd brodorol Gogledd America ![]() |
Rhan o | First Nations ![]() |
![]() |
Grŵp o bobloedd frodorol Gogledd America sy'n rhan o'r Iroquois yw'r Wendat, hefyd Wyandot neu Huron. Wendat oedd yr enw gwreiddiol, tra rhoddwyd yr enw "Huron" arnynt gan y fforwyr Ffrengig cynnar. Yr adeg honno roeddynt yn byw yn yr hyn a elwir heddiw'n dalaith Ontario, Canada, gyda Wendake fel prif ganolfan. Cyn hynny, roeddynt yn byw yn yr ardal lle mae dinas Québec heddiw.
Roedd y Wendat yn bobl amaethyddol, yn tyfu indrawn. Gostyngodd eu nifer yn fawr yn y 17g oherwydd heintiau (yn dilyn ymsefydliad Ewropeaid) yn yr ardal. Erbyn hyn, mae nifer o grwpiau bychain ohonynt yng Nghanada a'r Unol Daleithiau.
Cafod Llyn Huron ei enwi ar eu holau.