Whitby

Whitby
Mathtref, plwyf sifil Edit this on Wikidata
Ardal weinyddolBwrdeistref Scarborough, Gogledd Swydd Efrog
Poblogaeth13,594, 13,130 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Anchorage, Porirua, Kauai County, Stanley, East Fremantle Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGogledd Swydd Efrog
(Sir seremonïol)
GwladBaner Lloegr Lloegr
Cyfesurynnau54.4858°N 0.6206°W Edit this on Wikidata
Cod SYGE04007706 Edit this on Wikidata
Cod OSNZ893109 Edit this on Wikidata
Map

Tref a phlwyf sifil yng Ngogledd Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, ydy Whitby.[1] Fe'i lleolir yn ardal an-fetropolitan Bwrdeistref Scarborough.

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 13,213.[2]

Mae Caerdydd 375.2 km i ffwrdd o Whitby ac mae Llundain yn 331.6 km. Y ddinas agosaf ydy Efrog sy'n 66.1 km i ffwrdd.

Yr harbwr
Yr harbwr

Mae Avon Esk yn llifo trwy’r dref ac i’r harbwr. Mae Abaty Whitby ar ben bryn uwchben y dref; mae 199 o risiau yn arwain ato. Soniodd Bram Stoker am y dref yn ei nofel Dracula, cyhoeddwyd yn 1897. Mae pont droi yn cysylltu darnau gorllewinol a dwyreiniol y dref yn ymyl y harbwr. Mae Parc Pannett bron ynghanol y dref, ger yr amgueddfa ac oriel gelfyddyd. Mae arch asgwrn Morfil ar y clogwyn gorllewinol a cherflun o James Cook, yn wynebu’r harbwr. Roedd o’n brentis yn y tref, ac adeiladwyd ei gychod ar lannau’r Esk. Mae nifer o westai mawrion ar ben y clogwyn gorllewinol; mae’r dref wedi bod yn boblogaidd gyda thwristiaid ers yr oes Fictoria.[3]

  1. British Place Names; adalwyd 31 Awst 2020
  2. City Population; adalwyd 1 Medi 2020
  3. Gwefan visitwhitby.com

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne