Who Framed Roger Rabbit

Who Framed Roger Rabbit

Poster y ffilm
Cyfarwyddwr Robert Zemeckis
Richard Williams
Cynhyrchydd Frank Marshall
Robert Watts
Serennu Bob Hoskins
Christopher Lloyd
Charles Fleischer
Kathleen Turner
Joanna Cassidy
Stubby Kaye
Mel Blanc
Cerddoriaeth Alan Silvestri
Dylunio
Cwmni cynhyrchu Touchstone Pictures
(Cwmni Disney)
Dyddiad rhyddhau 21 Mehefin 1988
Amser rhedeg 103 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
(Saesneg) Proffil IMDb

Ffilm gomedi gan Disney yw Who Framed Roger Rabbit (1988). Cyfarwyddwyd y ffilm gan Robert Zemeckis a chafodd ei rhyddhau gan Touchstone Pictures. Cyfuna'r ffilm actio byw ac animeiddio, a chafodd ei seilio ar nofel Gary K. Wolf "Who Censored Roger Rabbit?", sy'n darlunio byd lle mae cymeriadau cartŵn yn cymysgu'n uniongyrchol gyda bodau dynol.

Mae "Who Framed Roger Rabbit" yn serennu Bob Hoskins fel y ditectif preifat Eddie Valiant, sy'n ymchwilio i lofruddiaeth y cymeriad cartŵn enwog, Roger Rabbit. Lleisiwyd y cymeriad hwnnw gan Charles Fleischer, tra bod Christopher Lloyd wedi lleisio Judge Doom, y dihiryn, Kathleen Turner fel llais gwraig cartŵn Roger, a Joanna Cassidy fel Delores, cariad y ditectif.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne