Defnyddwyr sydd â galluoedd arbennig ganddynt yw'r gweinyddwyr, sy'n gallu perfformio tasgau cynnal a chadw ar Wicipedia. Nid y gweinyddwyr sydd yn penderfynu ar y tasgau, heblaw ei bod yn dasg amlwg neu angen ei gweithredu yn ddiymdroi (e.e., dileu lluniau sydd wedi eu huwchlwytho heb ganiatâd perchennog yr hawlfraint). Yn hytrach â hyn, gweithredu penderfyniadau cymuned Wicipedia yw eu swyddogaeth. Maent yn ddefnyddwyr eu hunain, sydd yn ymgymryd â'r gwaith gweinyddol ychwanegol yn ddi-dâl. Eu prif ddyletswyddau yw diogelu a dileu tudalennau, golygu tudalennau sydd wedi eu diogelu, rhwystro defnyddwyr, a dadwneud y gweithredoedd hyn i gyd hefyd.