Ymddengys y newidiadau gynted ag y byddwch yn dewis "Cadw" neu "Cyhoeddi".
Arbrofi
Os ydych am arbrofi byddwch mor garedig â gwneud hynny yn y pwll tywod yn hytrach nag yn fan hyn. Mewn rhai porwyr mae modd agor y bocs tywod mewn tab neu ffenestr arall er mwyn gallu gweld y dudalen hon a’r arbrofion yn y pwll tywod ar unwaith. I wneud hynny cliciwch i’r dde ar y cyswllt i’r pwll tywod a dewiswch ‘Agor mewn ffenestr arall’.
Mae golygu tudalen Wici'n syml
Cliciwch ar y tab "Golygu" ar ben y ddalen ac fe agorir blwch testun ac ynddo iaith syml Wicipedia. Wedi i chi orffen golygu yn y blwch testun symudwch i waelod y dudalen olygu ble y gwelwch:
blwch "crynodeb": i nodi natur y golygiad, e.e. ychwanegu cyswllt, cam-sillafiad. Bydd hyn yn hwyluso gwaith defnyddwyr eraill.
blwch ticio "Mae hwn yn olygiad bychan". Gallwch dicio’r blwch os mai cywiro un gwall neu gamdeipio ydych. Ni ddylid ticio’r blwch os oes rhyw newid yn y ffeithiau yn yr erthygl. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi fydd yn gweld y blwch hwn.
botwm "Dangos Rhagolwg". Cliciwch ar hwn ac mewn ychydig eiliadau bydd rhagolwg o’r dudalen yn ymddangos ar ben uchaf y dudalen olygu, uwchben y blwch testun. Defnyddiwch y bar rholio ar yr ymyl dde i symud lawr ar hyd y dudalen nes y dewch at y blwch testun eto, lle y gallwch barhau i olygu, ac islaw hwnnw at y tri botwm glas
blwch ticio "Gwylier y dudalen hon". Ticiwch y blwch os am ychwanegu’r dudalen at eich rhestr gwylio. Dim ond defnyddwyr sydd wedi mewngofnodi all wneud hyn.
botwm "Dangos newidiadau". O ddewis hwn fe welwch pa newidiadau yr ydych ar fin eu gwneud i’r fersiwn gynt.
botwm "Cadw’r dudalen". Dewisiwch hwn pan rydych yn fodlon â'r y golygiad ac mae'n 'safio' neu'n 'cadw' unrhyw newidiadau a wnaethoch. Gofal: os symudwch o’r dudalen olygu i dudalen arall cyn dewis "Cadw’r dudalen" fe gollwch y gwaith teipio a wnaethoch.
Mae gan bob erthygl (a thudalen arall) "Dudalen sgwrs" ar gyfer sylwadau gan ddefnyddwyr eraill Wicipedia. Gallwch olygu hon hefyd drwy ddewis y tab "Golygu" uwch ei phen. Os y byddwch yn ychwanegu at y dudalen sgwrs cofiwch lofnodi'r darn os gwelwch yn dda, trwy ychwanegu 4 tilda ~~~~.