William Blake | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 28 Tachwedd 1757 ![]() Llundain, Broadwick Street ![]() |
Bedyddiwyd | 11 Rhagfyr 1757 ![]() |
Bu farw | 12 Awst 1827 ![]() Llundain ![]() |
Man preswyl | Green Street, Broadwick Street, Broadwick Street, Poland Street, Hercules Buildings, Felpham, South Molton Street, Fountain Court, Battersea, Broadwick Street ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | arlunydd, bardd, casglwr, gwneuthurwr printiau, darlunydd, athronydd, lithograffydd, argraffydd, drafftsmon, llenor, libretydd, arlunydd ![]() |
Adnabyddus am | The Marriage of Heaven and Hell, Jerusalem (Anthem William Blake), Vala, or The Four Zoas, Jerusalem The Emanation of the Giant Albion, Milton ![]() |
Arddull | peintio hanesyddol, paentiadau crefyddol, alegori, celfyddyd grefyddol, paentiad mytholegol, alegori ![]() |
Prif ddylanwad | Jakob Böhme, William Pars, James Barry, Giulio Romano ![]() |
Mudiad | Rhamantiaeth, fairy painting ![]() |
Tad | James Blake ![]() |
Mam | Catherine Hermitage ![]() |
Priod | Catherine Blake ![]() |
llofnod |
Bardd ac arlunydd o Loegr oedd William Blake (28 Tachwedd 1757 – 12 Awst 1827). Mae llawer o'i gerddi a'i ddarluniau yn ymdrin â mytholeg dwys personol a ddyfeisiwyd ganddo fe'i hun; bu'r Beibl a llenyddiaeth John Milton hefyd yn ddylanwad mawr arno. Datblygodd ddull argraffu unigryw ar gyfer ei weithiau, "illuminated printing", a oedd yn cyfuno testun a lluniau ar yr un blât copr; roedd Blake yn lliwio pob tudalen â phaent dyfrlliw, gan wneud pob "argraffiad" yn unigryw. Melltithiodd athrawiaeth rhesymoliaethol a materiolaethol ei oes, sef Oes yr Oleuo, am fod hyn yn llesteirio'r dychymyg a chrefydd, ac yn hynny o beth roedd yn arloeswr o'r Oes Ramantaidd. Yr enwocaf ymhilth ei gerddi yw "The Tyger" (o Songs of Experience, 1794) a'r rhagymadrodd i Milton: A Poem (1804–10), a osodwyd i gerddoriaeth yn yr 20g i greu yr anthem Seisnig adnabyddus, "Jerusalem".