Math | tref, ardal ddi-blwyf, tref marchnad |
---|---|
Ardal weinyddol | Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead, Berkshire |
Poblogaeth | 32,184 |
Gefeilldref/i | Goslar, Neuilly-sur-Seine |
Daearyddiaeth | |
Sir | Berkshire (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Gerllaw | Afon Tafwys |
Yn ffinio gyda | Llundain |
Cyfesurynnau | 51.48°N 0.6°W |
Cod OS | SU965765 |
Cod post | SL4 |
Perchnogaeth | Wiliam I, brenin Lloegr |
Sefydlwydwyd gan | Eingl-Sacsoniaid |
Tref yn Berkshire, De-ddwyrain Lloegr, ydy Windsor.[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Bwrdeistref Frenhinol Windsor a Maidenhead. Mae'n fwyaf adnabyddus fel lleoliad Castell Windsor.
Lleolir y dref 21 milltir (34 km) i'r gorllewin o Charing Cross. Mae ar lan de'r Afon Tafwys gyferbyn a Eton. Mae Caerdydd 178 km i ffwrdd o Windsor ac mae Llundain yn 35 km. Y ddinas agosaf ydy Dinas Westminster sy'n 33 km i ffwrdd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Windsor boblogaeth o 31,225.[2]
Mae pentref Old Windsor ("Hen Windsor"), tua dwy filltir i'r de-ddwyrain ac yn cyn-ddyddio beth elwir yn Windsor heddiw o tua 300 blynedd; yn y gorffennol cyfeirwyd at Windsor yn ffurfiol fel Windsor Newydd i wahaniaethu'r ddau.