Winston Churchill | |
---|---|
Llais | Winston Churchill - Be Ye Men of Valour.ogg |
Ganwyd | Winston Leonard Spencer Churchill 30 Tachwedd 1874 Palas Blenheim |
Bu farw | 24 Ionawr 1965 Hyde Park Gate |
Man preswyl | Dulyn, Palas Blenheim |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd, newyddiadurwr, arlunydd, hanesydd, hunangofiannydd, sgriptiwr, cofiannydd, gwladweinydd, swyddog milwrol, llenor, gweinidog, arlunydd, pennaeth llywodraeth |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | A History of the English-Speaking Peoples, The Second World War, A Traveller in War-Time |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Geidwadol, Plaid Ryddfrydol, y Blaid Geidwadol |
Tad | Yr Arglwydd Randolph Churchill |
Mam | Jennie Churchill |
Priod | Clementine Churchill |
Plant | Diana Churchill, Randolph Churchill, Sarah Churchill, Marigold Churchill, Mary Soames |
Adnoddau Dysgu | |
Rhestr o adnoddau dysgu ar gyfer y pwnc yma | |
---|---|
CBAC | |
Dirwasgiad a Rhyfel | |
Adolygwyd testun yr erthygl hon gan arbenigwyr pwnc ac mae'n addas i'w ddefnyddio mewn addysg |
Gwleidydd o Loegr oedd Winston Leonard Spencer Churchill (30 Tachwedd 1874 – 24 Ionawr 1965). Gwasanaethodd fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Ganwyd Churchill i fywyd o gyfoeth a braint ar Tachwedd 30, 1874 ym Mhalas Blenheim, Swydd Rhydychen. Daeth Winston yn filwr ac yna’n newyddiadurwr.
“ | Dydw i ddim yn cyfaddef, er enghraifft, bod cam mawr wedi'i wneud i Indiaid Cochion America neu bobl ddu Awstralia. Nid wyf yn cyfaddef bod cam wedi'i wneud i'r bobl hyn oherwydd bod hil gryfach, hil o radd uwch, hil doethach na nhw, wedi dod i mewn ac wedi cymryd eu tiroedd.[1] | ” |
Bu'n ohebydd rhyfel yn ystod Rhyfel y Boer 1899–1902 ac yn un o gyd-wleidyddion David Lloyd George tra’n aelod o’r Blaid Ryddfrydol cyn newid ei liwiau gwleidyddol i fod yn aelod o’r Blaid Geidwadol. Yn ystod y 1930au bu’n gyson ei feirniadaeth o bolisi Prydain tuag at Hitler ac yn 1940 olynodd Neville Chamberlain fel arweinydd Llywodraeth Prydain. Gwasanaethodd fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod yr Ail Ryfel Byd a ddaeth i ben yn 1945. Collodd Churchill a’r Blaid Geidwadol Etholiad Cyffredinol 1945 ond dychwelodd fel Prif Weinidog rhwng 1951 a 1955. Roedd yn gwrthwynebu ffurfio'r NHS gan y Cymro Aneurin Bevan]] a'r Blaid Lafur. Roedd hefyd yn awdur llyfrau hanes.