Wonder Woman | |
---|---|
Cyfarwyddwyd gan | Patty Jenkins |
Cynhyrchwyd gan | |
Sgript | Allan Heinberg |
Stori |
|
Seiliwyd ar | Wonder Woman gan William Moulton Marston |
Yn serennu | |
Cerddoriaeth gan | Rupert Gregson-Williams[1] |
Sinematograffi | Matthew Jensen |
Golygwyd gan | Martin Walsh |
Stiwdio | |
Dosbarthwyd gan | Warner Bros. Pictures |
Rhyddhawyd gan |
|
Hyd y ffilm (amser) | 141 munud[2][3] |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Iaith | Saesneg |
Cyfalaf | $149 miliwn[4] |
Gwerthiant tocynnau | $768 miliwn[4] |
Rhybudd! ![]() |
Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Mae Wonder Woman yn ffilm archarwr Americanaidd wedi'i seilio ar y cymeriad DC Comics o'r un enw, a ddosbarthir gan Warner Bros. Pictures. Dyma'r bedwaredd gyfrol o'r Bydysawd Estynedig DC. Cyfarwyddwyd y ffilm gan Patty Jenkins, gyda sgript ffilm gan Allan Heinberg, o stori gan Heinberg, Zack Snyder a Jason Fuchs. Yn actio yn y ffilm mae Gal Gadot, Chris Pine, Robin Wright, Danny Huston, David Thewlis, Connie Nielsen ac Elena Anaya. Wonder Woman yw'r ail ffilm theatrig gweithred byw sy'n cynnwys y cymeriad teitlog yn dilyn ei ymddangosiad cyntaf yn ffilm 2016 Batman v Superman: Dawn of Justice. Mae rôl Jenkins fel cyfarwyddwr yn ei gwneud y cyfarwyddwr benywaidd cyntaf o ffilm nodwedd archarwr gan stiwdio.[5]
Wedi'u osod yn 1918, mae'r ffilm yn adrodd stori y Dywysoges Diana (Gadot), sydd yn cael ei magu ar ynys yr Amasoniaid, Themyscira. Wedi i'r peilot Americanaidd Steve Trevor (Pine) gael damwain a glanio ar fôr yr ynys a chael ei achub gan Diana, mae ef yn esbonio wrthi am y Rhyfel Byd. Mae hi yn gadael ei chartref er mwyn dod a'r gwrthdaro i ben, gan ddod yn Wonder Woman yn y broses. Dechreuodd ddatblygiad y ffilm yn 1996, gyda Jenkins yn cael ei hychwanegu i gyfarwyddo yn 2015. Dechreuodd y prif ffotograffiaeth ar 21 Tachwedd 2015, gyda ffilmio yn digwydd yn y Deyrnas Unedig, Ffrainc ac yr Eidal cyn dod i ben ar 9 Mai 2016. Digwyddodd ffilmio ategol yn Tachwedd 2016.
Dangoswyd Wonder Woman am y tro cyntaf yn Shanghai ar 16 Mai 2017 ac fe'i rhyddhawyd yn yr Unol Daleithiau ar 2 Mehefin 2017 mewn 2D, 3D, ac IMAX 3D. Derbyniodd adolygiadau positif gan feirniaid, gyda nifer yn canmol cyfarwyddyd Jenkins, perfformiad Gadot a Pine ynghyd â'r sgript a'r sgôr gerddorol. Gosododd y ffilm record am yr agoriad ddomestig fwyaf ar gyfer cyfarwyddwr benywaidd ($103.3. miliwn) a'r agoriad mwyaf ar gyfer ffilm llyfr-gomic a arweinir gan fenyw. Fe wnaeth y ffilm dros $583 miliwn ledled y byd, yn ei wneud yn y chweched ffilm a enillodd fwyaf yn 2017.