Woody Guthrie | |
---|---|
Ganwyd | Woodrow Wilson Guthrie 14 Gorffennaf 1912 Okemah, Oklahoma |
Bu farw | 3 Hydref 1967 Dinas Efrog Newydd |
Label recordio | Folkways Records, Cub Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | gitarydd, canwr-gyfansoddwr, artist stryd, cerddolegydd, cyfansoddwr caneuon, hunangofiannydd, mandolinydd, cyfansoddwr, fiolinydd, canwr, undebwr llafur |
Adnabyddus am | This Land Is Your Land |
Arddull | American folk music, Canu gwerin, canu gwlad |
Priod | Marjorie Guthrie |
Plant | Arlo Guthrie, Nora Guthrie |
Perthnasau | Sarah Lee Guthrie |
Gwobr/au | Gwobr Grammy am Gyraeddiadau Gydol Oes, Americana Music Association President's Award, Oklahoma Music Hall of Fame, Rock and Roll Hall of Fame |
Gwefan | https://www.woodyguthrie.org |
Canwr a chyfansoddwr cerddoriaeth werin o Unol Daleithiau America oedd Woodrow Wilson Guthrie (14 Gorffennaf 1912 – 3 Hydref 1967), a adnabyddir fel Woody Guthrie. Roedd yn adnabyddus am ei gysylltiad â phobl y dref, y tlawd a'r gorthrymedig, yn ogystal â'i gasineb at ffasgiaeth a chamfanteisio.[1]
Creodd gannoedd o ganeuon gyda chynnwys gwleidyddol, caneuon traddodiadol eu naws a chaneuon i blant, yn ogystal â baledi a themâu byrfyfyr. Byddai'n perfformio'n aml gydag arwydd yn sownd wrth ei gitâr a oedd yn dweud "this machine kills fascists". Mae'n adnabyddus yn rhyngwladol am ei gân "This Land Is Your Land", sy'n dal i gael ei chanu mewn llawer o ysgolion yn yr Unol Daleithiau ac a gyfieithwyd i'r Gymraeg a'i chanu gan Dafydd Iwan ac fel sengl gyda Edward Morus Jones yn 1966. Mae llawer o'i ganeuon wedi'u harchifo yn Llyfrgell Gyngres yr Unol Daleithiau,[2] sydd hefyd yn cadw rhai llawysgrifau.[3]