![]() | |
Enghraifft o: | gwaith creadigol anorffenedig, gwaith llenyddol ![]() |
---|---|
Awdur | Georg Büchner ![]() |
Iaith | Almaeneg ![]() |
Dyddiad cyhoeddi | 1879, 1875 ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1837 ![]() |
Genre | drama gymdeithasol ![]() |
Lleoliad y perff. 1af | Cuvilliés Theatre ![]() |
Dyddiad y perff. 1af | 8 Tachwedd 1913 ![]() |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus ![]() |
Mae Woyzeck (ynganiad Cymraeg = Foit'tsi'ec) yn ddrama ysgrifennwyd gan Georg Büchner rhwng Gorffennaf a Hydref 1836.
Mae'r gwaith wedi dod yn un o ddramâu mwyaf adnabyddus a dylanwadol Yr Almaen gyda pherfformiadau, addasiadau a chyfieithiadau di-rif ar draws y byd. Mae wedi’i droi’n sawl ffilm, ballet ac opera enwog.
Bu farw Büchner yn 1837 cyn gorffen y gwaith gan adael darnau o lawysgrif heb eu rhifo. Am i’r gwaith heb gael ei orffen does dim fersiwn ‘trefn gywir’ o’r golygfeydd. Mae hefyd fersiynau gwahanol ambell i ddarn gan arwain at addasiadau a dehongliadau hynod o amrywiol.
Dim ond yn 1877, rhyw bedwar deg o flynyddoedd yn ddiweddarach, ymddangosodd y gwaith mewn print am y tro cyntaf mewn addasiad gan Karl Emil Franzos.[1] A dim ond yn 1913 fe’i perfformiwyd am y tro cyntaf.
Mae Georg Büchner bellach yn cael ei gyfrif fel un o fawrion lenyddiaeth y byd ac mae prif wobr llenyddol yr Almaen y Georg-Büchner-Preis wedi’i enwi ar ei ôl.