Xerxes II, brenin Persia | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 5 g CC ![]() Iran ![]() |
Bu farw | 424 CC ![]() Persepolis ![]() |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines ![]() |
Swydd | Pharo ![]() |
Rhagflaenydd | Artaxerxes I, brenin Persia ![]() |
Tad | Artaxerxes I, brenin Persia ![]() |
Mam | Damaspia ![]() |
Plant | Rhodogune ![]() |
Llinach | Brenhinllyn yr Achaemenid ![]() |
Brenin Ymerodraeth Persia am gyfnod byr yn 424 CC oedd Xerxes II, Hen Berseg: Xšayāršā (bu farw 424 CC).
Daeth yn frenin ar farwolaeth ei dad, Artaxerxes I. Ymddengys mai ef oedd unig fab Artaxerxes gyda'i wraig, Damaspia, ond roedd ganddo o leiaf ddau fab gordderch. Ar ôl teyrnasiad o ddim ond 45 diwrnod, llofruddiwyd Xerxes II gan ei hanner brawd, Sogdianus.
Cred rhai ysgolheigion mai ef oedd yr Ahasfferus sy'n gymeriad yn Llyfr Esther yn y Beibl, ond nid oes cytundeb ar hyn.
Rhagflaenydd: Artaxerxes I |
Brenin Ymerodraeth Achaemenid Persia 424 CC |
Olynydd: Sogdianus |
Rhagflaenydd: Artaxerxes I |
Brenin yr Aifft 424 CC |
Olynydd: Sogdianus |