Enghraifft o: | aerial bombing of a city |
---|---|
Rhan o | home front during World War II, strategic bombing during World War II |
Dechreuwyd | 7 Medi 1940 |
Daeth i ben | 21 Mai 1941 |
Lleoliad | y Deyrnas Unedig |
Yn cynnwys | Barrow Blitz, Belfast Blitz, Birmingham Blitz, Brighton Blitz, Bristol Blitz, Cardiff Blitz, Clydebank Blitz, Coventry Blitz, Greenock Blitz, Hull Blitz, Leeds Blitz, Liverpool Blitz, Manchester Blitz, Newcastle Blitz, Nottingham Blitz, Plymouth Blitz, Sheffield Blitz, Southampton Blitz, Blitz Abertawe |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cyfnod o fomio parhaus gan Natsïaid yr Almaen rhwng y 7fed o Fedi 1940 a'r 10fed o Fai 1941 yn ystod yr Ail Ryfel Byd oedd y Blitz. Mae'r enw yn dalfyriad o Blitz, y gair Almaenig am "mellt".[1] Er i'r "Blitz" daro nifer o drefi a dinasoedd ledled Prydain, dechrau'r cyfan oedd bomio Llundain am 57 noson yn olynol. Erbyn diwedd mis Mai 1941, lladdodd y bomiau dros 43,000 o sifiliaid, gyda dros hanner ohonynt yn Llundain. Dinistriwyd dros filiwn o dai yn Llundain yn unig.
Ond nid Llundain oedd yr unig ddinas i ddod o dan ymosodiadau'r Luftwaffe yn ystod y "blitz". Dioddefodd canolfannau milwrol a diwydiannol eraill ymosodiadau rheolaidd a nifer fawr o golledion. Roedd y trefi a'r dinasoedd yma'n cynnwys Abertawe a Chaerdydd yng Nghymru, Clydebank a Greenock yn yr Alban, Birmingham, Bryste, Coventry, Sheffield, Lerpwl, Hull, Manceinion, Portsmouth, Plymouth, Nottingham a Southampton yn Lloegr, a Belffast yng Ngogledd Iwerddon,.
Ni lwyddoddd yr ymosodiadau yn eu nod i chwalu morál Gweledydd Prydain i ildio. Erbyn mis Mai 1941, roedd y bygythiad go iawn o'r Almaen yn ceisio meddiannu'r DU wedi pasio a chanolbwyntiodd Hitler ar ddwyrain Ewrop. Er nad oedd yr Almaen wedi llwyddo i fomio Prydain eto ar raddfa mor eang, parhaodd i fomio mewn ymosodiadau llai trwy gydol y rhyfel, gan gynyddu'r nifer o sifiliaid a laddwyd i 51,509. Roedd datblygiad y bomiau hedfan di-beilot a'r rocedi V-2 ym 1944, wedi galluogi'r Almaen i ymosod ar Lundain unwaith eto gan ddefnyddio arfau a daniwyd ar gyfandir Ewrop. Yn gyfangwbl, lladdodd yr arfau V 8,938 o drigolion Llundain a de-ddwyrain Lloegr.