![]() Eglwys Sant Cynidr | |
Math | pentref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 994, 1,004 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Powys ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 3,888.6 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.0453°N 3.2012°W ![]() |
Cod SYG | W04000276 ![]() |
Cod post | HR3 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | James Evans (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | David Chadwick (Democratiaid Rhyddfrydol) |
![]() | |
Pentref a chymuned ym Mhowys, Cymru, yw Y Clas-ar-Wy[1] (Saesneg: Glasbury). Fe'i lleolir ar lan ogleddol Afon Gwy, gyferbyn ag Aberllynfi, ac i'r de-orllewin o'r Gelli Gandryll, ger priffordd yr A438. Saif ar groesfan bwysig ar Afon Gwy, ger y fan lle mae Afon Llynfi yn ymuno â hi, o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog.
Mae'r bardd Guto'r Glyn (c.1435 – c.1493) yn cyfeirio at yr enw "y Clas" yn ei gerddi.[2]
Ceir lawnt (neu grîn) wedi ei amgylchynu a thai yn y pentref, rhywbeth sy'n gyffredin ym mhentrefi Lloegr ond yn anarferol yng Nghymru. Dyddia'r Hen Ficerdy i tua 1400, sy'n ei wneud yn un o'r tai hynaf yng Nghymru sydd a phobl yn dal i fyw ynddo.
Heblaw'r Clas-ar-Wy ei hun, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Bochrwyd, Cwm-bach, Llansteffan a Llowes. Roedd y boblogaeth yn 2001 yn 902.