Y Deuddegfed Gogoneddus | |
---|---|
Orenwyr yn gorymdeithio ym Mangor ar 12 Gorffennaf 2010 | |
Dethlir gan | Yr Urdd Oren |
Arwyddocâd | Dathlu Chwyldro Gogoneddus 1688 a buddugoliaeth Wiliam o Oren ym Mrwydr y Boyne. |
Dyddiad | 12 Gorffennaf |
Dathliadau | Gorymdeithiau, cystadlaethau drymiau Lambeg, codi baneri a rhubanau. |
Cysylltir â | Yr Unfed Noson ar Ddeg |
Dathliad Protestannaidd blynyddol yw'r Deuddegfed Gogoneddus[1] neu'r Deuddegfed (Saesneg: The Glorious Twelfth, The Twelfth neu Orangemen's Day)[2] a gynhelir ar 12 Gorffennaf. Cychwynnodd yn Iwerddon yn y 18g, ac mae'n dathlu Chwyldro Gogoneddus 1688 a buddugoliaeth Wiliam o Oren dros Iago II ym Mrwydr y Boyne ym 1690. Mae aelodau'r Urdd Oren a bandiau Protestannaidd yn gorymdeithio ar led Gogledd Iwerddon, ac hefyd mewn mannau eraill o'r byd. Mae'r Deuddegfed yn ŵyl cyhoeddus yng Ngogledd Iwerddon.[2]
Cysylltir trais â dathliadau'r Deuddegfed yn Wlster ers ei gychwyn. Mae nifer yn y gymuned Gatholig a chenedlaetholwyr Gwyddelig yn ystyried gorymdeithiau'r Urdd Oren yn enwadol, gorchestaidd, a phryfoclyd. Bu anghydfod ar ei anterth yn ystod yr Helyntion, ond yn ddiweddar gwneir ymdrechion i fychanu agweddau gwleidyddol yr ŵyl ac ei wneud yn ddigwyddiad diwylliannol i deuluoedd a thwristiaid.