Y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision

Y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision
Enghraifft o:cenedl yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision Edit this on Wikidata
Rhan oCystadleuaeth Junior Eurovision Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://junioreurovision.tv/country/united-kingdom Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Dechreuodd cyfranogiad y Deyrnas Unedig yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision yn y gystadleuaeth gyntaf yn 2003 a gynhaliwyd yn Copenhagen, Denmarc. ITV, aelod-sefydliad o United Kingdom Independent Broadcasting (UKIB) ac Undeb Darlledu Ewropeaidd (UDE), oedd yn gyfrifol am broses ddethol eu cyfranogiad. Defnyddiodd y Deyrnas Unedig fformat dethol cenedlaethol, gan ddarlledu sioe o'r enw "Junior Eurovision Song Contest: The British Final", am eu cyfranogiad yn y cystadlaethau. Y cynrychiolydd cyntaf i gymryd rhan dros y genedl yng nghystadleuaeth 2003 oedd Tom Morley gyda'r gân "My Song For The World", a orffennodd yn y trydydd safle allan o un ar bymtheg o gynigion a gymerodd ran, gan sicrhau sgôr o gant a deunaw pwynt. Tynnodd y Deyrnas Unedig yn ôl o gystadlu yng Nghystadleuaeth Junior Eurovision yn 2006, ac nid ydyn nhw eto wedi dychwelyd i'r ornest.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne