Defnyddid y Fedwen Fai mewn dawnsfeydd a gynhelid fel rhan o ddathliadau Calan Mai. Roedd hyn yn arferiad cyffredin trwy holl wledydd gorllewin Ewrop. Credir ei fod yn tarddu o'r cyfnod cyn-Gristnogol a'i fod yn ymwneud â ffrwythlondeb. Yr enw a ddefnyddid yn ne Cymru arni oedd Pawl Haf ac yn y gogledd sonir am godi'r Fedwen (maypole yn Saesneg). Roedd y fedwen yn bren tal ac yn aml fe gadewid hi ar sgwar y pentref drwy gydol y flwyddyn, gan ei phaentio pan oedd angen a'i haddurno gyda rhubanau, blodau a thorchau. Roedd y pawl mwyaf drwy wledydd Prydain yn Welford-on-Avon yn Swydd Warwick ac roedd yn 65 troedfedd o uchder.[1]