Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol Bráithreachas Phoblacht na hÉirean Irish Republican Brotherhood | |
---|---|
![]() | |
Slogan | Éirinn go Brách ("Iwerddon am Byth!") |
Sefydlwyd | 1858 |
Daeth i ben | 1924 |
Rhagflaenwyd gan | Yr iwerddon Ifanc (Young Ireland) |
Papur | The Irish People |
Rhestr o idiolegau | Cenedlaetholdeb Gwyddelig |
Plaid yn y DU | Y Gwirfoddolwyr Gwyddelig (1913–1917) Y Fyddin Weriniaethol (Irish Republican Army) (1917–1922) Byddin Iwerddon (Irish Army) (1922–1924) |
Cysylltiadau Americanaidd cryf | Y Frawdoliaeth Ffeniaidd Fenian Brotherhood (1858–1867) Clan na Gael (1867–1924) |
Lliw | Gwyrdd ac Aur |
Cymdeithas gyfrinachol oedd y Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (Saesneg: Irish Republican Brotherhood, IRB; Gwyddeleg: Bráithreachas Phoblacht na hÉireann) a sefydlwydd gyda'r bwriad i sefydlu Iwerddon gyfan yn "weriniaeth ddemocrataidd annibynnol". Bu'r mudiad yn bodoli rhwng 1858 a 1924.[1] Roedd yn allweddol yn nhrefniadau Gwrthryfel y Pasg yn 1916.
Sefydlwyd chwaer-fudiad yn Unol Daleithiau America gan John O'Mahony a Michael Doheny, mudiad a ddaeth i'w adnabod fel y Frawdolaeth Ffenaidd (Gwyddeleg: Bráithreachas na bhFíníní; Saesneg: Fenian Brotherhood, ac mewn Gaeleg, yn ddiweddarach: Clan na Gael). Gelwir aelodau'r ddau fudiad yn 'Ffeniaid'.[2] Cymerodd y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol (yr IRB) ran allweddol yn hanes Iwerddon (1801-1922), rhan bwysicach efallai nag unrhyw fudiad arall. Yr IRB oedd prif ladmerydd cenedlaetholdeb Gwyddelig, yn ystod yr ymgyrch dros hunanlywodraeth i Iwerddon, ac yn yr ymgyrch i dorri'n rhydd oddi wrth 'Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon'. Etifeddodd y mudiad enw da rhagflaenwyr megis y 'Gwyddelod Unedig' (United Irishmen) o'r 1790au ac 'Iwerddon Ifanc' (Young Ireland) y 1840au.
Y Frawdoliaeth Wyddelig, Weriniaethol a gynlluniodd Wrthryfel y Pasg yn 1916, ac yn y man a esgorodd ar sefydlu'r Dáil Éireann cyntaf. Wedi Rhyfel Annibyniaeth Iwerddon ac arwyddo Cytundeb Iwerddon-Lloegr yn 1921, gwawriodd llawer o'u hamcanion pan sefydlwyd 'Gwladwriaeth Rydd Iwerddon'.[3] Ond,nid oedd yn cynnwys Gogledd Iwerddon.