![]() | |
Math | cymuned, pentref ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 179, 164 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 4,483 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8019°N 3.8889°W ![]() |
Cod SYG | W04000064 ![]() |
Cod OS | SH726244 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref a chymuned yng Ngwynedd, Cymru, yw Y Ganllwyd[1] neu Ganllwyd.[2] Saif mewn dyffryn ar yr A470 ger Dolgellau. Yno mae'r Afon Gamlan yn ymuno gyda'r Afon Mawddach. Mae'n gymuned hefyd.
Mae olion y diwydiant aur i'w gweld yno tu ôl i'r neuadd pentref. Y mwyngoddfa fwyaf oedd Ffridd Goch a'r chyfadeiladau yng Nghefn Coed. Cynhyrchwyd 80 owns o aur o’r safleoedd hyn rhwng 1896 a 1902. Y tro diwethaf y mwyngloddwyd yn yr ardal oedd rhwng 1919 ac 1922. Roedd hefyd mwynfa fechan Tyddyn Gwladys o tua 1830, a'i weithwyd yn ysbeidiol i gynhyrchu plwm ac aur. Cloddiwyd 43 tunell o fwyn aur, gan gynhyrchu 7 owns o aur yn ei blwyddyn olaf yn 1899.[3]