Enghraifft o: | catrawd, gwarchodlu troedfilwyr |
---|---|
Rhan o | Adran y Gwarchodluoedd |
Dechrau/Sefydlu | 1 Ebrill 1900 |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Catrawd o droedfilwyr yn y Fyddin Brydeinig yw'r Gwarchodlu Gwyddelig (Saesneg: Irish Guards; IG) sy'n rhan o Adran y Gwarchodluoedd. Mae ganddi un fataliwn. Mae'r fyddin yn recriwtio Gwarchodluwyr Gwyddelig o Ogledd Iwerddon a'r gymuned Wyddelig ym Mhrydain Fawr. Ni cheir hawl i recriwtio yng Ngweriniaeth Iwerddon, ond mae rhai dinasyddion Gwyddelig yn listio â'r gatrawd ar liwt eu hunain.
Sefydlwyd y gatrawd gan y Frenhines Fictoria ar 1 Ebrill 1900 i ddangos ei gwerthfawrogiad i filwyr Gwyddelig a ymladdodd yn Ail Ryfel y Boer.[1] Yr Arglwydd Roberts oedd cyrnol cyntaf y gatrawd, ac oddi arno ef daeth yr hen lysenw "Bob's Own".[2] Llysenw modern y Gwarchodlu Gwyddelig yw'r "Micks".[1][3]
<ref>
annilys; ni roddwyd testun ar gyfer 'ref' o'r enw Chant-81