![]() | |
Math | palas, tŷ gwydr, cyn-adeilad, adeilad digwyddiadau, lleoliad chwaraeon ![]() |
---|---|
Agoriad swyddogol | 1851 ![]() |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Hyde Park, Llundain, Norwood Uchaf, Crystal Palace ![]() |
Sir | Dinas Westminster, Bromley, Kensington, Llundain ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.4223°N 0.0758°W ![]() |
![]() | |
Arddull pensaernïol | glass architecture, Victorian architecture ![]() |
Cost | 150,000 punt sterling ![]() |
Deunydd | gwydr, haearn, haearn bwrw, coeden ![]() |
Adeilad o haearn bwrw a gwydr plât a godwyd yn Hyde Park, Llundain, i gartrefu'r Arddangosfa Fawr oedd y Palas Grisial (Saesneg: the Crystal Palace). Cynhaliwyd yr arddangosfa rhwng 1 Mai a 15 Hydref 1851, a daeth mwy na 14,000 o arddangoswyr o bob cwr o'r byd i ddangos enghreifftiau o dechnoleg fodern ynddo. Roedd yr adeilad, wedi'i ddylunio gan Joseph Paxton, yn 1,851 troedfedd (564 m) o hyd, gydag uchder mewnol o 128 troedfedd (39 m) a chyda maint o 990,000 troedfed sgwâr (92,000 m2). Roedd gan y Palas Grisial yr arwynebedd mwyaf o wydr a welwyd erioed mewn adeilad. Roedd ymwelwyr yn rhyfeddu at ei waliau a nenfydau tryloyw a oedd yn dileu'r angen am oleuadau mewnol. Ar ôl i'r arddangosfa ddod i ben cafodd y Palas ei symud i Sydenham Hill yn ne Llundain. Yno y safai o Fehefin 1854 hyd ei ddinistrio gan dân yn Nhachwedd 1936. Ailenwyd yr ardal breswyl gyfagos yn "Crystal Palace" ar ôl yr adeilad.