![]() | |
Math | cofeb ryfel ![]() |
---|---|
Ardal weinyddol | Dinas Westminster, Llundain |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Llundain Fwyaf (Sir seremonïol) |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 51.50269°N 0.12608°W ![]() |
Cod OS | TQ3015979858 ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I ![]() |
Manylion | |
Deunydd | Carreg Portland ![]() |
Cofeb ryfel yn Whitehall, Llundain, yw'r Senotaff (Saesneg: Cenotaph, o'r gair yn iaith Roeg am fedd gwag).[1] Mae'n coffáu'r milwyr Prydeinig a fu farw yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r rhyfeloedd ers hynny. Dyma ganolbwynt y seremoni coffáu gwladol a gynhelir yn flynyddol ar Sul y Cofio. Fe'i cynlluniwyd gan y pensaer Syr Edwin Lutyens mewn pythefnos yng Ngorffennaf 1919, ar gyfer pen-blwydd y Cadoediad. Pren a phlastr oedd deunyddiau'r cofeb dros dro hon; adeiladwyd fersiwn carreg parhaol yn y flwyddyn olynol.[2] Mae'r cynllun wedi bod yn ddylanwadol iawn ar gofadeiladau ledled y byd; ceir fersiynau ohono yn Awstralia, Bermuda, Canada, Hong Cong a Seland Newydd. Mae fersiwn bychan ohono a godwyd ym 1924, eto i gynlluniau Lutyens, ym Marics Maendy, Caerdydd.[3]