Y cylch busnes

Cynnydd a gostyngiad mewn cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC) dros amser yw'r cylch busnes. Hyd un cylch busnes yw'r cyfnod sydd yn cynnwys un twf economaidd ac un crebachiad.

Yn ystod twf neu ffyniant economaidd, ymateba cwmnïau drwy gyflogi mwy o weithwyr a chynyddu allgynnyrch. Gelwir cyfnod o dwf sylweddol yn ymchwydd economaidd. Mewn crebachiad neu gwymp economaidd, gostynga allgynnyrch ac mae diweithdra yn codi. Gall hyn arwain at ddirwasgiad.

Mesurir y cylch busnes gan amlaf yn nhermau cyfradd twf y CMC real. Defnyddir y cylch busnes i ddadansoddi economïau cenedlaethol.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne