Gwasanaeth Nadolig traddodiadol wedi'i gynnal yn fore ydy'r plygain neu'r blygain. Daw unigolion, deuawdau, grwpiau a theuluoedd ymlaen i du blaen yr eglwys i ganu carolau'r plygain. Rhwng tri a chwech y bore y cynhaliwyd y gwasanaeth fel arfer, er bod yr amseroedd, bellach, yn amrywio'n fawr. Yn draddodiadol, roedd canhwyllau'n rhan bwysig, gyda gorymdaith yn aml o ganol y pentref i'r eglwys.[1] Mae'n dyddio nôl i'r adeg cyn y diwygiad Protestanaidd yn y 16g gydag elfennau llawer hŷn na hynny.
Cred rhai y daw'r gair 'plygain' o'r gair Lladin pullicantiō[2], sef 'ar ganiad y ceiliog'; cred eraill mai o'r gair 'plygu' y daw. Fe'i ceir hefyd yn y Llydaweg fel pellgent. Mae sawl amrywiad ar y gair: pylgen, pilgen, plygan, plygen a.y.y.b, a gall fod yn enw gwrywaidd neu fenywaidd mewn gwahanol rannau o'r wlad. Ceir enghraifft o'r gair mewn llawysgrifau Cymraeg mor gynnar a'r 13g ('pader na pilgeint na gosber'); y gair Llydaweg am Siôn Corn ydy Tad-kozh ar pellgent ("Tad-cu y plygain").
Mewn rhai mannau, arferai'r bobl wneud cyflaith i ddisgwyl yr amser cychwyn. Gwyddys i hyn ddigwydd ym Marford, Sir y Fflint er enghraifft. Roedd yr oriau hyn cyn y plygain, ac felly'n rhai cymdeithasol iawn. Ceir cofnod mai gwneud cyflaith a threulio'r noson yn addurno'r tai â chelyn ac uchelwydd oedd y traddodiad ym Marford, Sir Fflint, yn y 1830au. Ac yn nyddiadur Mrs. Thrale o daith yn 1774 cynheuai pobl Dyffryn Clwyd eu goleuadau am ddau y bore, a chanu a dawnsio i'r delyn tan y plygain.