![]() | |
Math | tref, cymuned ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 1,999, 1,974, 1,993 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Ardal warchodol | Parc Cenedlaethol Eryri ![]() |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 241.94 ha ![]() |
Yn ffinio gyda | Llanuwchllyn ![]() |
Cyfesurynnau | 52.911°N 3.596°W ![]() |
Cod SYG | W04000045 ![]() |
Cod OS | SH925359 ![]() |
Cod post | LL23 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Tref fechan a chymuned yn ardal Meirionnydd, Gwynedd, yw'r Bala. Cyfeirnod OS: SH 92515 36708. Does dim ond un stryd fawr yn y dref. Mae'r dref ar yr A494, rhwng Dolgellau (18 milltir i'r de-orllewin) a Llangollen (22 milltir i'r dwyrain). Cyn ad-drefnu llywodraeth leol roedd hi yn yr hen Sir Feirionnydd. Mae ganddi boblogaeth o 1,999 (2021),[1] 1,974 (2011),[2] 1,993 (2021)[3].
Llyn naturiol mwyaf Cymru ydyw Llyn Tegid sydd ar gyrion y dref. Mae Afon Tryweryn yn llifo heibio i'r dwyrain ac yn ymuno ag Afon Dyfrdwy sy'n llifo drwy Lyn Tegid ac yn dod allan ar ochr ddeheuol y Bala.
Cynhaliyd gŵyl gerddoriaeth boblogaidd, "Wa Bala" ar gyrion y dref ym Mis Medi 2017.