Y Brenin Arthur

Arthur
Enw?O bosib yr un person â Emrys Wledig (Ambrosius Aurelianus)
Man cladduHonedig: Ynys Afallon, Glastonbury
DinasyddiaethBrython
GalwedigaethRhyfelwr, Milwr, Cadfridog
Cysylltir gydaBrwydr Mynydd Baddon
Warning: Page using Template:Infobox person with unknown parameter "cysylltir_gyda" (this message is shown only in preview).
Warning: Page using Template:Infobox person with unknown parameter "galwedigaeth" (this message is shown only in preview).

Cymeriad sy'n ymddangos yn aml ym marddoniaeth a chwedlau Cymraeg yn y cyfnod cynnar, ac sydd hefyd yn ymddangos fel arweinydd y Brythoniaid yn ymladd yn erbyn y goresgynwyr Sacsonaidd oedd y Brenin Arthur. Cred rhai ysgolheigion fod yna Arthur go iawn wedi byw yn y cyfnod rhwng diwedd y bumed ganrif a dechrau'r chweched, tra gred eraill mai cymeriad mytholegol ydyw.

Ceir cyfeiriad at Arthur fel cymeriad hanesyddol yn yr Historia Brittonum o ran gyntaf y 9g, a briodolir i Nennius. Ceir hefyd gyfeiriadau at Arthur mewn barddoniaeth a chwedlau Cymraeg cynnar, mewn cerddi megis Preiddiau Annwn o tua 900 ac yn arbennig yn chwedl Culhwch ac Olwen, sy'n dyddio i tua 10801100.

Mae Sieffre o Fynwy yn sôn am Arthur a'r dewin Myrddin yn ei Historia Regum Britanniae ("Hanes Brenhinoedd Prydain") ym 1136. O'r adeg hon ymlaen, daeth chwedlau am Arthur yn eithriadol boblogaidd mewn llawer rhan o Ewrop. Ychwanegodd awduron Ffrengig a Normanaidd lawer o fanylion o sawl ffynhonnell, er enghraifft am y cleddyf Caledfwlch, Y Greal Santaidd a chastell Camelot. Un o'r llyfrau mwyaf enwog a dylanwadol am y Brenin Arthur yw'r Morte d'Arthur a ysgrifennwyd gan Thomas Malory yn y bymthegfed ganrif.

Mae chwedlau llên gwerin am Arthur i'w cael ledled Cymru, Cernyw a Llydaw.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne