Arwyddair | Unité – Solidarité – Développement |
---|---|
Math | gwlad, gwladwriaeth sofran, ynys-genedl, gwladwriaeth archipelagig |
Prifddinas | Moroni |
Poblogaeth | 902,348 |
Sefydlwyd | 6 Gorffennaf 1975 (Annibyniaeth oddi wrth Ffrainc) |
Anthem | Udzima wa ya Masiwa |
Pennaeth llywodraeth | Azali Assoumani |
Cylchfa amser | UTC+03:00, Indian/Comoro |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Comorian, Arabeg, Ffrangeg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Dwyrain Affrica |
Gwlad | Comoros |
Arwynebedd | 2,034 km² |
Yn ffinio gyda | Madagasgar, Ffrainc, Mosambic, Seychelles, Tansanïa |
Cyfesurynnau | 12.3°S 43.7°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Undeb Comoros |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd Comoros |
Pennaeth y wladwriaeth | Azali Assoumani |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd Comoros |
Pennaeth y Llywodraeth | Azali Assoumani |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $1,296 million, $1,243 million |
Arian | Comorian franc |
Canran y diwaith | 6 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 4.49 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.558 |
Mae'r Comoros (neu'n swyddogol Undeb y Comoros), yn wlad archipelagaidd sy'n cynnwys tair ynys yn Ne-ddwyrain Affrica, a leolir ym mhen gogleddol Sianel Mosambic, yng Nghefnfor India. Ei phrifddinas a'i dinas fwyaf yw Moroni. Crefydd mwyafrif y boblogaeth, a chrefydd swyddogol y wladwriaeth, yw Swnni. Cyhoeddodd Comoros ei hannibyniaeth oddi wrth Ffrainc ar 6 Gorffennaf 1975. Y Comoros yw unig wlad y Gynghrair Arabaidd sydd yn gyfan gwbl yn Hemisffer y De. Mae'n aelod-wladwriaeth o'r Undeb Affricanaidd, y Sefydliad internationale de la Francophonie, y Sefydliad dros Gydweithio Islamaidd, a Chomisiwn Cefnfor India. Ceir tair iaith swyddogol: Shikomorieg, Ffrangeg ac Arabeg.
Yn 1,659 km2 (641 mi sgw) , y Comoros yw'r drydedd wlad leiaf yn Affrica yn ôl arwynebedd. Yn 2019, amcangyfrifwyd bod ei phoblogaeth yn 850,886. Mae'r wladwriaeth sofran yn cynnwys tair prif ynys a nifer o ynysoedd llai, pob un o'r Ynysoedd Comoro ac eithrio Mayotte sy'n Département o fewn i Ffrainc. Pleidleisiodd Mayotte yn erbyn annibyniaeth oddi wrth Ffrainc mewn refferendwm yn 1974, ac mae'n parhau i gael ei gweinyddu gan Ffrainc fel rhanbarth dramor. Mae Ffrainc wedi rhoi feto ar benderfyniad Cyngor Diogelwch y Cenhedloedd Unedig a fyddai wedi cadarnhau sofraniaeth Comoria dros yr ynys.[1][2][3][4] Daeth Mayotte yn un o Départements Ffrainc yn 2011 yn dilyn refferendwm llethol.
Credir i'r Comoros gael ei boblogi am y tro cyntaf gan bobl Awstronesaidd / Malagasi, siaradwyr Bantw o Ddwyrain Affrica, a masnachwyr Arabaidd morwrol.[5] O 1500 ymlae roedd Swltanad Anjouan yn rheoli'r ynysoedn ag eithrio'r Grande Comore wedi'i rannu rhwng sawl swltan. Daeth yn rhan o ymerodraeth drefedigaethol Ffrainc yn ystod y 19g, cyn ei hannibyniaeth yn 1975. Mae wedi profi mwy nag 20 coup neu ymgais o'r fath, gyda phenaethiaid gwladwriaethau amrywiol wedi'u llofruddio.[6][7] Ynghyd â’r ansefydlogrwydd gwleidyddol cyson hwn, mae ganddi un o’r lefelau uchaf o anghydraddoldeb incwm drwy'r byd, ac mae yn y chwartel canolig ar y Mynegai Datblygiad Dynol.[8] Rhwng 2009 a 2014, roedd tua 19% o'r boblogaeth yn byw o dan y llinell dlodi ryngwladol o US$1.90 y dydd trwy gydraddoldeb pŵer prynu.[9]