Y Forwyn Fair

Y Forwyn Fair
Ganwyd1 g CC Edit this on Wikidata
Tzippori, Jeriwsalem Edit this on Wikidata
Bu farw1 g, 48 Edit this on Wikidata
Unknown Edit this on Wikidata
Man preswylNasareth Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnknown Edit this on Wikidata
Dydd gŵyl15 Awst Edit this on Wikidata
TadJoachim Edit this on Wikidata
MamAnn Edit this on Wikidata
PriodJoseff Edit this on Wikidata
PlantIesu Edit this on Wikidata
PerthnasauElisabeth, Ioan Fedyddiwr Edit this on Wikidata
Llinachy Teulu Sanctaidd Edit this on Wikidata

Yn ôl y Testament Newydd, roedd Mair (a elwir hefyd yn Santes Fair neu'r Forwyn Fair) yn fam i Iesu Grist. Roedd hi'n briod â Sant Ioseff ac, yn ôl ffynonellau llai derbynnol, yn ferch i'r saint Joachim ac Ann. Mae efengyl Luc yn adrodd sut y dysgodd Mair, a oedd yn forwyn (gwyryf) ar y pryd, gan yr archangel Gabriel, negesydd oddi wrth Dduw, ei bod hi'n mynd i roi genedigaeth wyrthiol i Iesu Grist, Mab Duw.

Anrhydeddir y Santes Fair yn bennaf yn yr Eglwys Gatholig, ac o fewn yr eglwys honno credir iddi gael ei llenwi â gras Duw ers ei genedigaeth (nid yw'r athrawiaeth hon yn golygu, fel mae rhai wedi ei dehongli, bod Mair hithau wedi cael ei geni yn wyryfol). Athrawiaeth ganolog arall i Gristnogaeth Catholig yw'r Dyrchafiad, hynny yw, bod corff Mair wedi codi i'r nefoedd wedi ei marwolaeth. Anrhydeddir hi hefyd o fewn Islam; ceir mwy am fywyd Mair yn y Coran nac yn y Testament Newydd.

Yn symbolaidd mae'r Forwyn Fair yn cael ei chyfelybu i Arch y Cyfamod yn y traddodiad liturgiaidd Cristnogol, am ei fod wedi dwyn Crist i'r byd i roi Cyfamod newydd.

Yn ôl traddodiad treuliodd ddyddiau olaf ei hoes mewn ger Effesus (de-orllewin Twrci) a bu farw yno. Creda Catholigion bod ei thŷ yn Nasareth wedi hedfan oddi ar ei safle wreiddiol i dref Loreto yn yr Eidal ym 1294. Dyma'r unig safle sy'n gysylltiedig â bywyd Mair drwy Ewrop ac felly y mae yn safle boblogaidd am bererindodau.


From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne