![]() | |
Gweriniaeth Gambia | |
![]() | |
Arwyddair | Cynnydd, Heddwch, Ffyniant ![]() |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwlad ![]() |
Enwyd ar ôl | Afon Gambia ![]() |
Prifddinas | Banjul ![]() |
Poblogaeth | 2,639,916 ![]() |
Sefydlwyd | 18 Chwefror 1965 (Annibyniaeth oddi wrth Lloegr (y DU)) |
Anthem | Dros y Gambia, ein Mamwlad ![]() |
Pennaeth llywodraeth | Adama Barrow ![]() |
Cylchfa amser | UTC+00:00, Africa/Banjul ![]() |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Saesneg ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gorllewin Affrica ![]() |
Gwlad | Y Gambia ![]() |
Arwynebedd | 11,300 ±1 km² ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Iwerydd ![]() |
Yn ffinio gyda | Senegal ![]() |
Cyfesurynnau | 13.5°N 15.5°W ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cynulliad Cenedlaethol y Gambia ![]() |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Arlywydd y Gambia ![]() |
Pennaeth y wladwriaeth | Adama Barrow ![]() |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Arlywydd y Gambia ![]() |
Pennaeth y Llywodraeth | Adama Barrow ![]() |
![]() | |
![]() | |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $2,038 million, $2,273 million ![]() |
Arian | dalasi ![]() |
Cyfartaledd plant | 5.717 ![]() |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.5 ![]() |
Gwlad fechan ar arfordir Gorllewin Affrica yw Y Gambia (Gweriniaeth y Gambia yn swyddogol). Mae'r Gambia wedi'i hamgylchu yn gyfangwbl gan Senegal a hi yw'r wlad leiaf ar dir mawr Affrica.[1] Llain o dir ar hyd glannau Afon Gambia yw'r wlad; afon a roddodd ei henw i'r wlad. Mae'r Gambia wedi'i hamgylchynu gan Senegal, heblaw am ei harfordir gorllewinol sy'n ffinio ar Gefnfor yr Iwerydd. Arwynebedd y wlad yw 10,689km² ac mae ei phoblogaeth oddeutu 2,639,916 (2021)[2].
Banjul yw prifddinas Gambia a hi yw ardal fetropolitan fwyaf y wlad.[3] Ffermio, pysgota a thwristiaeth sy'n dominyddu economi'r Gambia. Yn 2015, roedd 48.6% o'r boblogaeth yn byw mewn tlodi. Mewn ardaloedd gwledig, mae tlodi hyd yn oed gryn dipyn yn uwch: 70%.
Mae'r Gambia yn debyg i lawer o genhedloedd eraill yng Ngorllewin Affrica yn y fasnach gaethweision, a oedd y ffactor allweddol wrth sefydlu a chadw cytref ar Afon Gambia, yn gyntaf gan Bortiwgal, pan gelwid yr ardal yn "A Gâmbia". Yn ddiweddarach, ar 25 Mai 1765, gwnaed y Gambia yn rhan o'r Ymerodraeth Brydeinig pan gymerodd lywodraeth 'Prydain Far' reolaeth ohoni'n ffurfiol, gan sefydlu 'Gwladfa ac Amddiffynfa Gambia' (Gambia Colony and Protectorate).
Ym 1965, enillodd y Gambia annibyniaeth o dan arweinyddiaeth Dawda Jawara, a fu'n arweinydd ar y wlad nes i Yahya Jammeh gipio grym mewn coup d'état di-drais yn 1994. Daeth Adama Barrow yn drydydd arlywydd Gambia yn Ionawr 2017, ar ôl trechu Jammeh yn etholiadau Rhagfyr 2016.[4] Derbyniodd Jammeh canlyniad yr etholiad, i ddechrau, yna gwrthododd eu derbyn, a sbardunodd argyfwng cyfansoddiadol ac ymyrraeth filwrol gan 'Gymuned Economaidd Gwladwriaethau Gorllewin Affrica', gan arwain at alltudiaeth Jammeh.[5][6]