Enghraifft o: | cylchgrawn ![]() |
---|---|
Iaith | Cymraeg ![]() |
Cylchgrawn Cymraeg a gyhoeddwyd yn 1807 oedd Y Greal. Chwarterolyn am lenyddiaeth, hanes a thraddodiadau Cymru ydoedd. Dim ond naw rhifyn a ddaeth allan ond cafodd gryn ddylanwad yng Nghymru.
Ymhlith yr erthyglau a gyhoeddwyd bu rhai o lythyrau'r bardd Goronwy Owen a hwbiodd ei statws fel llenor o statws "cwlt", Breuddwyd Macsen Wledig (am y tro cyntaf mewn print), hunangofiant y dramodydd Twm o'r Nant, a hanes Madog ab Owain Gwynedd yn teithio i'r Amerig.
Golygydd y cylchgrawn oedd William Owen Pughe, ar ran y Gwyneddigion.