Y Llen Haearn

Y Llen Haearn
Enghraifft o:political border, catchphrase Edit this on Wikidata
Daeth i ben19 Awst 1989 Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu5 Mawrth 1946 Edit this on Wikidata
Map
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Trosiad gwleidyddol oedd yn symboleiddio'r rhaniad yn Ewrop yn ystod y Rhyfel Oer yw y Llen Haearn. Yng Ngorllewin a De Ewrop, yr oedd gwledydd y Gymuned Ewropeaidd a NATO, ac yn Nwyrain Ewrop yr oedd gwledydd Comecon a Chytundeb Warsaw. Yn ffisegol, roedd rhai amddiffynfeydd ar ororau rhwng gwledydd y Gorllewin a'r Dwyrain, gan gynnwys Mur Berlin.

Poblogeiddiodd Winston Churchill y term mewn araith ym 1946, gan ddatgan: "O Stettin yn y Baltig i Trieste yn yr Adria disgynna 'llen haearn' dros y cyfandir."

Aelodau Cytundeb Warsaw yn goch; aelodau NATO yn las; gwledydd milwrol amhleidiol yn llwyd. Iwgoslafia yn llwyd tywyll (gweler hollt Tito-Stalin). Albania yn llwyd gyda llinellau cochion (gweler yr hollt Tsieineaidd-Sofietaidd).

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne