Enghraifft o: | tîm rygbi'r undeb, metaorganization |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1888 |
Lleoliad | Ynysoedd Prydain |
Perchennog | Undeb Rygbi Lloegr, Undeb Rygbi Cymru, Undeb Rygbi'r Alban, Undeb Rygbi Iwerddon |
Pencadlys | Dulyn |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig, Gweriniaeth Iwerddon |
Gwefan | https://www.lionsrugby.com |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Tîm rygbi'r undeb sy'n cael ei ddewis o chwaraewyr gorau timai yr Alban, Cymru, Iwerddon a Lloegr yw'r Llewod Prydeinig a Gwyddelig, fel rheol Y Llewod. Arferid cyfeirio at y tîm fel Y Llewod Prydeinig, ond newidiwyd yr enw oherwydd gwrthwynebiad llawer o Wyddelod i'r enw yma. Mae'r Llewod yn chwarae gemau Prawf; chwaraewyr rhyngwladol sydd fel arfer yn cael eu dewis i'r garfan, ond caniateir dewis chwaraewyr nad ydynt wedi chwarae i'w gwlad ond sy'n gymwys i wneud. Mae'r garfan yn teithio pob pedair blynedd, i Awstralia, Seland Newydd a De Affrica yn eu tro. Collwyd cyfres Brawf 2009 2-1 i Dde Affrica ac enillwyd cyfres 2013 2-1 yn erbyn Awstralia.
Mae carfan o chwaraewyr gwledydd Prydain wedi bod yn teithio i Hemisffer y De ers 1888. Menter fasnachol oedd y daith gyntaf, heb unrhyw gefnogaeth swyddogol. Tyfodd y gefnogaeth hon dros y chwe taith ganlynol, hyd nes i'r daith i Dde Affrica yn 1910 gynrychioli'r pedwar Undeb am y tro cyntaf.
Mae'r Llewod wedi chwarae yn y crysau coch gyda bathodyn sy'n cyfuno bathodynau'r pedwar Undeb Rygbi ers canol yr 20g.