Enghraifft o: | rhanbarth |
---|
Y Mers (Saesneg: The March(es)) yw'r enw Cymraeg am y tiriogaethau Normanaidd a orweddai rhwng y Gymru Gymreig annibynnol a Lloegr yn yr Oesoedd Canol.
Fe'i rheolid gan deuluoedd Normanaidd grymus o'u canolfannau yng Nghaer, Amwythig a Henffordd. Yn raddol, trwy gydbriodas, cymathwyd y teuluoedd hyn i deuluoedd uchelwrol Cymreig a Seisnig ac mewn canlyniad mae haneswyr yn tueddu i'w galw yn Eingl-Normaniaid a/neu, yn fwy diweddar, yn Gambro-Normaniaid. Mae'r term yn cynnwys yr arglwyddiaethau mwy diweddar a grëwyd ar ôl goresgyniad Tywysogaeth Cymru yn 1282-83, e.e. Swydd y Waun, Brwmffild a Iâl ac Arglwyddiaeth Dinbych. Yn ogystal, mae tiriogaethau'r Normaniaid yn ne Cymru, o Went i Sir Benfro, yn cael eu cynnwys hefyd, fel rheol.