Arlunydd | Vincent van Gogh |
---|---|
Blwyddyn | 1889 |
Catalogue | F612 JH1731 |
Maint | 73.7 cm × 92.1 cm × (29 in × 36 1⁄4 in) |
Lleoliad | Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Efrog Newydd |
Darlun olew ar gynfas gan yr ôl-argraffiadydd o'r Iseldiroedd Vincent van Gogh ydy Y Noson Serennog. Peintiwyd ym mis Mehefin 1889 ac mae'n darlunio'r olygfa o ffenestr ddwyreinol ei ystafell mewn gwallgofdy yn Saint-Rémy-de-Provence, cyn toriad y wawr, gyda phentref wedi'i ychwanegu yn y pellter. Mae wedi bod yng nghasgliad Amgueddfa Celfyddyd Fodern, Efrog Newydd ers 1941. Ystyrir y darlun fel un o beintiadau gorau van Gogh, ac yn un o'r peintiadau mwyaf adnabyddus yn hanes diwylliant y Gorllewin.