![]() | |
Enghraifft o: | digwyddiad rheolaidd ym myd chwaraeon ![]() |
---|---|
Math | twrnamaint tenis ![]() |
Rhan o | Y Gamp Lawn ![]() |
Dechrau/Sefydlu | 1877 ![]() |
Lleoliad | Clwb Tenis Lawnt a Croce Lloegr Cyfan ![]() |
![]() | |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Rhanbarth | Wimbledon ![]() |
Gwefan | https://www.wimbledon.com ![]() |
![]() |
Twrnamaint tenis hynaf y byd a ystyrir yn aml fel y gystadleuaeth denis uchaf ei fri yw Pencampwriaethau, Wimbledon neu Wimbledon.[1][2] Fe'i gynhelir yng Nglwb All England ym maestref Wimbledon, Llundain, ers 1877. Wimbledon yw'r hynaf o bedwar twrnamaint tenis y Gamp Lawn, a'r unig un a barheir i chwarae ar gyrtiau gwair.
Cynhelir y twrnamaint bob blwyddyn am 14 diwrnod o ddiwedd Mehefin i gychwyn Gorffennaf,[3] gyda rownd derfynol y senglau dynion, a chwaraeir ar Ddydd Sul, fel uchafbwynt y cystadlaethau. Chwaraeir pump prif gystadleuaeth yn y twrnamaint, yn ogystal â phedair cystadleuaeth iau a phedair cystadleuaeth wahoddiad.
Wimbledon yw'r drydedd twrnamaint yn nhymor blynyddol y Gamp Lawn; rhagflaenir gan Bencampwriaeth Agored Awstralia, ar gyrtiau caled, a Phencampwriaeth Agored Ffrainc, ar gyrtiau clai. Fe'i olynir gan Bencampwriaeth Agored yr Unol Daleithiau, ar gyrtiau caled. Mae Pencampwriaethau Clwb y Frenhines, a gynhelir ar gyrtiau gwair yn Llundain, hefyd yn dwrnamaint poblogaidd sy'n rhagflaenu Wimbledon.
Mae traddodiadau Wimbledon yn cynnwys bwyta mefus a hufen, nawddogaeth frenhinol, côd gwisg llym ar gyfer cystadleuwyr, a bechgyn a merched y bêl. Traddodiad arall sydd ddim mor boblogaidd yw galwadau "rain stops play" lle bo glaw yn rhwystro chwarae ac o ganlyniad mae gornestau yn cymryd mwy o amser neu'n rhedeg mewn i amser gornestau eraill; adeiladwyd to sy'n tynnu'n ôl ar y Cwrt Canolog er mwyn delio â'r broblem hyn yn 2009.