![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.8212°N 4.6327°W ![]() |
Cod OS | SH227281 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Mabon ap Gwynfor (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Liz Saville Roberts (Plaid Cymru) |
![]() | |
Pentref yng nghymuned Aberdaron, Gwynedd, yw Y Rhiw[1] ( ynganiad) [2] (weithiau heb y fannod: Rhiw).[3] Fe'i lleolir ar arfordir deheuol Llŷn tua tair milltir a hanner i'r dwyrain o bentref Aberdaron. Credir i'r pentref gael ei henw gan Aelrhiw, sant o'r 6g a cheir eglwys yma o'r enw 'Sant Aelrhiw.
Mae'n sefyll mewn bwlch rhwng Creigiau Gwineu (242 meter) a Clip y Gylfinir (270 m). Ceir manganîs yng nghreigiau Clip y Gylfinir (Mynydd Rhiw), ac ar un adeg bu chwech mwynglawdd yma: yn 1906 cyflogid 200 o ddynion. Ceir golygfa dros fae Porth Neigwl o gyffiniau'r Rhiw ac yn enwedig o gopa Mynydd Rhiw ei hun.