![]() | |
Enghraifft o: | rhyfel ![]() |
---|---|
Rhan o | rhyfeloedd rhwng Lloegr a Ffrainc ![]() |
Dechreuwyd | 1337 ![]() |
Daeth i ben | 1453 ![]() |
Lleoliad | Ffrainc ![]() |
Yn cynnwys | Edwardian War, Caroline War, Lancastrian War, Rhyfel Cartref Castille, Rhyfel Olyniaeth Llydaw, Ail Ryfel Annibyniaeth yr Alban, Despenser's Crusade, Siege of Orléans, War of the Two Peters ![]() |
![]() |
Rhyfel am orsedd Ffrainc rhwng Brenhinllin Plantaganet o Loegr a Brenhinllin Valois o Ffrainc oedd y Rhyfel Can Mlynedd. Enw a roddwyd i'r rhyfel gan haneswyr diweddarach yw hwn; nid oedd yn cael ei ddefnyddio ar y pryd. Parhaodd yr ymladd am 116 mlynedd, o 1337 hyd 1453, ond gyda nifer o ysbeidiau byr o heddwch a dwy ysbaid hirach. Bu tua 81 mlynedd o ymladd i gyd. Diweddodd gyda'r Saeson yn cael eu gyrru allan o Ffrainc heblaw am Calais.