Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Gaerfyrddin |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.7832°N 4.1107°W |
Cod OS | SN545115 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Lee Waters (Llafur) |
AS/au y DU | Nia Griffith (Llafur) |
Pentref yng nghymuned Llan-non, Sir Gaerfyrddin, Cymru, yw Y Tymbl (Saesneg: Tumble).[1] Dyma un o bentrefi mwyaf yn y sir ac fe'i lleolir yn ardal Cwm Gwendraeth. Credir bod yr enw anghyffredin hwn yn dod o enw ar hen dafarn y Tumble Down Dick a oedd wedi ei lleoli ar safle'r clwb rygbi presennol. Pentref glofaol oedd y Tymbl hyd yn gymharol ddiweddar, ond erbyn hyn, mae'r diwydiant wedi diflannu, ac mae Parc Gwledig y Coetir erbyn hyn wedi ei sefydlu ar hen waith glo'r Tymbl.
Gerllaw ceir Parc Coetir y Mynydd Mawr.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Lee Waters (Llafur)[2] ac yn Senedd y DU gan Nia Griffith (Llafur).[3]