Y Werin Wydr

Y Werin Wydr
AwdurAnnes Gruffydd
GwladCymru
IaithCymraeg
GenreDramâu Cymraeg
Dyddiad y perff. 1af1992

Trosiad newydd Cymraeg gan Annes Gruffydd o The Glass Menagerie Tennessee Williams yw Y Werin Wydr. Llwyfanwyd y cyfieithiad am y tro cyntaf gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1992.[1]

Nododd y llenor Hazel Walford Davies yn Barn (Medi 1992) bod "trosiad Annes Gruffydd o The Glass Menagerie, yn un arbennig o ystwyth ac yn dal hiwmor ac ysbryd y gwreiddiol. [...] Heb amheuaeth, cyfieithiad i Wynedd yw hwn, ac i Sir Fôn yn arbennig. Yr hyn a ddiflannodd wrth gwrs yn y cynhyrchiad oedd grym acen taleithiau Missouri a Mississippi. Mae cymaint o’r hyn sydd gan Williams i’w gyfleu yn y ddrama ynghlwm wrth acen araf, hiraethus y De."[2]

Ni chafodd y trosiad hwn ei gyhoeddi hyd yma. Mae cyfieithiad Emyr Edwards o'r un ddrama wedi'i gyhoeddi dan y teitl Pethe Brau.

  1. Rhaglen Cwmni Theatr Gwynedd o Y Werin Wydr 1992.
  2. "DISODLI'R THEATR REALISTIG gan Hazel walford Davies; atodiau theatr bARN cyfrol 355/356 Awst / Medi 1992". www.theatre-wales.co.uk. Cyrchwyd 2024-08-25.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Nelliwinne