Ychydig mae'r ffin rhwng Cymru a Lloegr wedi newid dros y canrifoedd. Mae heddiw'n mesur tua 257 km (160 milltir): o aber afon Dyfrdwy yn y gogledd i aber afon Hafren yn y de.
Mae ei leoliad fwy neu lai'n cydredeg gyda Chlawdd Offa a chafodd ei gadarnhau yn 1535 pan ddiddymwyd Arglwyddiaethau'r Mers a chreu siroedd newydd. Cadarnhawyd y ffin pan basiwyd Deddf Llywodraeth Leol 1972 a ddaeth i rym yn 1974, yn y flwyddyn honno hefyd y cadarnhawyd fod Sir Fynwy yn rhan o Gymru.