Ardaloedd gymharol wag y bydysawd y tu hwnt i atmosfferau cyrff nefol (neu 'selestial') yw'r gofod (Saesneg: space neu outer space).
Nid yw'r gofod allanol yn gyfan gwbl wag ac yn wir mae'r hen derm Cymraeg 'gwagle' yn gamarweiniol: mae'n fan sy'n cynnwys dwysedd isel o ronynnau, yn bennaf plasma o hydrogen a heliwm yn ogystal ag ymbelydredd electromagnetig, meysydd magnetig, niwtrinos, llwch a phelydrau cosmig. Mae'r tymheredd cyfartalog yn 2.7 kelvins (−270.45 °C; −454.81 °F).[1]
Mae'r plasma rhwng galaethau'n cyfrif am tua hanner y mater baraidd (cyffredin) yn y bydysawd; mae ganddo ddwysedd llai nag un atom hydrogen fesul metr ciwbig a thymheredd o filiynau o kelvins. Mae crynodiadau lleol o'r plasma hwn wedi cwympo i fewn i'w hunain nes creu sêr a galaethau.[1] Dengys astudiaethau fod 90% o'r màs yn y rhan fwyaf o galaethau mewn ffurf anhysbys, a elwir yn "fater tywyll", sy'n rhyngweithio â mater arall trwy ddisgyrchiant ond nid grym electromagnetig.[2][3] Mae sylwadau'n awgrymu bod y rhan fwyaf o'r ynni màs yn y Bydysawd yn egni gwactod mae seryddwyr yn ei labelu "egni tywyll", ond nad ydynt yn deall fawr ddim amdano.
Mae gofod rhyng-galactig yn cymryd y rhan fwyaf o gyfaint y Bydysawd, ond mae galaethau a systemau sêr yn cynnwys bron y cyfan o'r gofod gwag.