Mae'r erthygl hon yn cofnodi mater cyfoes. Gall y wybodaeth sydd ynddi newid o ddydd i ddydd. |
Mewn ffiseg niwclear a chemeg niwclear, ymasiad niwclear (Saesneg: nuclear fusion) ydy'r uniad hwnnw rhwng dau niwclews mas ysgafn, wedi'u gwasgu at ei gilydd gan egni aruthrol. Mae'r weithred o ymasiad yn gwbwl groes i'r weithred sy'n digwydd heddiw ymh mhob atomfa, sef ymholltiad niwclear ble mae'r niwclei'n cael eu chwalu'n gyrbibion. Felly, dim ond o dan amgylchiadadau eithriadol y gall ymasiad ddigwydd e.e. mae'n rhaid wrth dymheredd uchel iawn. Cyn gynted ag y mae'r ddau niwclei'n ddigon agos at ei gilydd cânt eu gwthio at ei gilydd oherwydd fod yr egni sy'n eu gwthio yn gryfach na'r egni electromagnetig sy'n eu gwahanu. Pan maen nhw'n asio at ei gilydd, mae llawer iawn o egni'n cael ei ryddhau.
Dyma'n union yr hyn sy'n digwydd mewn sêr megis ein Haul: pedwar proton yn asio mewn niwclews o heliwm, dau bositron a dau niwtrino. Mae'r asio (neu'r ymasio) hwn yn afreolus, hynny yw ni ellir ei reoli a gelwir y weithred hon yn rhediad thermoniwclear (Saesneg: thermonuclear runaway).