Enghraifft o: | dosbarth o endidau anatomegol |
---|---|
Math | organ ddynol, primate brain, organ component of neuraxis, endid anatomegol arbennig |
Màs | 1.2 ±1.4 cilogram |
Rhan o | Homo sapiens |
Rhagflaenwyd gan | neural tube |
Yn cynnwys | cerebrwm, bôn yr ymennydd, Cerebellum |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yr ymennydd dynol yw'r rhan o'r corff sydd yn galluogi pobl i wneud synnwyr o bethau. Mae'n cael mewnbwn gan organau synnwyr, ac mae'n newid ymddygiad mewn ymateb i'r wybodaeth hon. Mae'r ymennydd hefyd yn rheoli ein defnydd o iaith, ac yn ein galluogi i feddwl yn haniaethol[1]. Yr ymennydd yw canolfan reoli'r corff cyfan[2]. Mae'r ymennydd yn cynnwys math arbennig o gelloedd. Maent yn gysylltiedig â'i gilydd a chyda'r nerfau yn y corff. Mae'r ymennydd eiddil yn cael ei warchod gan esgyrn y benglog.