Enghraifft o: | hunanfomio, llofruddiaeth torfol |
---|---|
Dyddiad | 22 Mai 2017 |
Lladdwyd | 23 |
Rhan o | terfysgaeth yn y Deyrnas Gyfunol, terfysgaeth Islamaidd yn Ewrop |
Lleoliad | Manchester Arena, Manceinion, Lloegr |
Rhanbarth | Dinas Manceinion |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
53°29′17″N 2°14′38″W / 53.48806°N 2.24389°W
Achos o hunanfomio gan derfysgwr Islamaidd oedd ymosodiad Arena Manceinion a ddigwyddodd ar 22 Mai 2017 ym Manceinion, Lloegr.[1] Credir mai un dyn, Salman Abedi,[2] yn gweithio ar ei liwt ei hun, oedd yr hunanfomiwr, ond mae hefyd yn bosib fod eraill wedi'i gynorthwyo.
Digwyddodd yr ymososiad yng nghyntedd yr Arena, tua 22:30, ar ddiwedd cyngerdd gan Ariana Grande; roedd y perfformiad yn rhan o'i thaith: Dangerous Woman Tour. Lladdwyd 22 o bobol, yn cynnwys y bomiwr, ac anafwyd 59.[3][4][5]
Dyma'r ail ddigwyddiad terfysgol yn Lloegr yn 2017, yn dilyn yr ymosodiad ar Westminster ar 22 Mawrth, a chafodd ei olynu gan ymosodiad Pont Llundain ac ymosodiad Parc Finsbury.