Error in Template:Align: the alignment setting "dde" is invalid.
Roedd Ymosodiadau Paris, Tachwedd 2015 yn gyfuniad o saethu, dal gwystlon a hunanfomio a ddigwyddodd tua'r un amser ar y 13eg Tachwedd 2015 ym Mharis, Ffrainc. Digwyddodd rhan o'r ymosodiad ym maestref Saint-Denis, a leolir yng ngogledd y brifddinas ac fe'i trefnwyd gan gefnogwyr ISIS. Lladdwyd o leiaf 130 o sifiliaid, ac anafwyd 368 (80–99 yn ddifrifol).
Dechreuodd yr ymososiad am 21:20 Amser Canolbarth Ewrop (CET) pan gafwyd tri hunanffrwydrad y tu allan i'r Stade de France yn Saint-Denis, ac o fewn dim, cafwyd hunanfomiad arall a saethwyd yn gelain nifer o bobl mewn pedwar lleoliad drwy Baris.[2] Lladdwyd 89 yn Theatr y Bataclan,[3] pan gymerodd y terfysgwyr wystlon cyn ymgymryd a sesiwn saethu teirawr gyda'r heddlu.[4][5][6] Lladdwyd 7 o'r terfysgwyr a pharhaodd y chwilio am wythnosau am gynorthwywr a therfysgwyr eraill.[7] Rhain oedd yr ymosodiadau mwyaf difrifol yn Ffrainc ers yr Ail Ryfel Byd,[8][9] gyda mwy o feirwon wedi'u lladd ar yr un diwrnod - o fewn unrhyw wlad drwy Ewrop - ers bomio tren Madrid yn 2004.[10]
Cyhoeddodd Gwladwriaeth Islamaidd Irac a'r Lefant (ISIS neu ISIL) mai nhw oedd yn gyfrifol am gydgordio'r ymosodiadau,[11][12] a mynegodd Arlywydd Ffrainc, François Hollande fod y weithred hon yn "weithred o ryfel gan ISIL",[13] a gynlluniwyd ganddynt yn Syria, a drefnwyd yng Ngwlad Belg, ac a gafodd ei weithredu ar ein tir."[14][15] Credir i'r ymosodiad hwn ar Ffrainc ddigwydd i ddial am awyrennau Ffrainc a fu'n bomio ISIL yn Iraq a Syria ers Hydref 2015.[16]
↑Nodyn: Cyfieithiad o "planned in Syria, organised in Belgium, perpetrated on our soil with French complicity."
↑Alicia Parlapiano, Wilson Andrews, Haeyoun Park and Larry Buchanan (17 Tachwedd 2015). "Finding the Links Among the Paris Attackers". The New York Times. Cyrchwyd 17 Tachwedd 2015.CS1 maint: multiple names: authors list (link)