Ynyr Gwent | |
---|---|
Ganwyd | 430 ![]() |
Bu farw | 480 ![]() |
Galwedigaeth | teyrn ![]() |
Swydd | brenin ![]() |
Priod | Madryn, Derwela ![]() |
Plant | Iddon ap Ynir, Teigiwg ach Ynyr, Caradog Freichfras ![]() |
Brenin Gwent oedd Ynyr Gwent (bl. 5g), yn ôl traddodiad. Roedd yn dad i nifer o blant yn cynnwys yr arwr Iddon.
Cymreigiad o'r enw personol Lladin Honorius yw 'Ynyr'. Awgryma Rachel Bromwich ddylanwad enw'r ymerawdwr Rhufeinig Honorius (384-423) ar yr enw 'Ynyr Gwent'.[1] Nid dyma'r unig enghraifft o'r cyfnod ôl-Rufeinig o gael enw teyrnas fel epithet: cymharer Maelgwn Gwynedd ac Emyr Llydaw.
Ym Muchedd Beuno, dywedir fod Ynyr yn un o ddisgyblion Sant Beuno ac iddo roi tir i'r sant yn Ewias. Cyfeiria'r bardd Gwalchmai ap Meilyr (12g) at Went fel "gwlad Ynyr".[2]
Gwraig Ynyr oedd Madryn, ferch Gwrthefyr fab Gwrtheyrn (a gofir fel nawdd santes Trawsfynydd). Mae plant Ynyr yn cynnwys:[2]