![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 105,526 ![]() |
Cylchfa amser | UTC+08:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | dosbarth o ysysoedd (uned weinyddol) ![]() |
Gwlad | Gweriniaeth Pobl Tsieina ![]() |
Arwynebedd | 146.38 km² ![]() |
Uwch y môr | 934 metr ![]() |
Gerllaw | Môr De Tsieina ![]() |
Cyfesurynnau | 22.2706°N 113.9528°E ![]() |
Hyd | 27 cilometr ![]() |
![]() | |
Ynys Lantau (Mandarin: 大嶼山) yw'r ynys fwyaf yn Hong Cong, sydd wedi'i lleoli ar aber Afon Perl.Tan yn ddiweddar, roedd yr ynys yn gartref i sawl pentref pysgotwyr, megis Mui Wo, Tai O, Tong Fuk a Sha Lo Wan. Erbyn hyn, mae datblygiadau mawr wedi 'u cwblhau, gan gynnwys Maes Awyr Rhyngwladol Hong Cong a gwbwlhawyd ym 1998, Disneyland Hong Cong yn 2005, a thref newydd Tung Chung yn ymyl y maes awyr.
Mae Mynachdy Po Lin yn un o sawl mynachdy ar Ynys Lantau,[1] ac yn sefyll wrth ochr y Bwda Mawr Tian Tan. Adeiladwyd y Bwda Mawr ym 1993; mae'n 34 metr o uchder a chymerodd 12 mlynedd i'w adeiladu. Ceir 268 o risiau yn arwain ato.[2][3]