Math | ynys |
---|---|
Enwyd ar ôl | William Baffin |
Poblogaeth | 13,148 |
Cylchfa amser | UTC−04:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago |
Sir | Nunavut |
Gwlad | Canada |
Arwynebedd | 507,451 km² |
Uwch y môr | 2,147 metr |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig |
Cyfesurynnau | 69°N 72°W |
Hyd | 1,600 cilometr |
Ynys Arctig yng nghanolbarth gogledd Canada yw Ynys Baffin (Ffrangeg: Île de Baffin). Ynys Baffin yw ynys fwyaf Canada a'r bumed fwyaf yn y byd, gydag arwynebedd o 507,451 km² (195,928 milltir sgwar); mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Mae ganddi boblogaeth o tua 11,000 (2007). Fe'i henwir ar ôl y fforiwr o Brydain, William Baffin. Roedd y Llychlynwyr yn ei hadnabod fel Helluland. Iqaluit, Bae Frobisher gynt, yw cymuned mwyaf Ynys Baffin a phrifddinas diriogaethol Nunavut, tiriogaeth ieuengaf Canada. Mae nifer sylweddol o drigolion yr ynys yn bobl Inuit. Mae Ynys Baffin yn rhan o ranbarth Qikiqtaaluk.