![]() | |
Math | ynys ![]() |
---|---|
Enwyd ar ôl | William Baffin ![]() |
Poblogaeth | 13,148 ![]() |
Cylchfa amser | UTC−04:00 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Canadian Arctic Archipelago ![]() |
Sir | Nunavut ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 507,451 km² ![]() |
Uwch y môr | 2,147 metr ![]() |
Gerllaw | Cefnfor yr Arctig ![]() |
Cyfesurynnau | 69°N 72°W ![]() |
Hyd | 1,600 cilometr ![]() |
![]() | |
Ynys Arctig yng nghanolbarth gogledd Canada yw Ynys Baffin (Ffrangeg: Île de Baffin). Ynys Baffin yw ynys fwyaf Canada a'r bumed fwyaf yn y byd, gydag arwynebedd o 507,451 km² (195,928 milltir sgwar); mewn cymhariaeth mae arwynebedd Ynys Môn yn 714 km². Mae ganddi boblogaeth o tua 11,000 (2007). Fe'i henwir ar ôl y fforiwr o Brydain, William Baffin. Roedd y Llychlynwyr yn ei hadnabod fel Helluland. Iqaluit, Bae Frobisher gynt, yw cymuned mwyaf Ynys Baffin a phrifddinas diriogaethol Nunavut, tiriogaeth ieuengaf Canada. Mae nifer sylweddol o drigolion yr ynys yn bobl Inuit. Mae Ynys Baffin yn rhan o ranbarth Qikiqtaaluk.